Ardrethi busnes yng Nghymru

Ymchwiliad undydd

Ar 5 Hydref, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau sesiwn undydd i ystyried ardrethi busnes. Roedd hyn yn cynnwys digwyddiad brecwast gydag amrywiaeth o randdeiliaid, a chyfres o gyfweliadau gyda busnesau ledled Cymru.

Er mwyn sicrhau ein bod yn clywed barn busnesau ledled Cymru, rydym hefyd wedi creu fideo byr, sy'n rhoi crynodeb o rai o'r materion allweddol. Chwaraewyd y fideo hwn yn y digwyddiad brecwast i helpu i annog trafodaeth.

 

Nodau

Nodau'r Pwyllgor ar gyfer y dydd oedd:

§  Cael mwy o fanylion am flaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet o ran ardrethi busnes yng Nghymru, a rhoi eglurder am y rhain i fusnesau ledled Cymru.

§  Deall profiad tystion o'r ailbrisiad ardrethi busnes sydd ar y gweill yn 2017.

§  Craffu ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu ymrwymiad maniffesto Llafur Cymru i dorri ardrethi busnes busnesau bach.

§  Dysgu mwy am gynlluniau Ysgrifennydd y Cabinet i ystyried gosod treth gwerth tir yn lle ardrethi busnes yn y tymor hwy.

 

Yr hyn a glywsom

Yn ystod ein sesiwn frecwast, buom yn trafod effaith ardrethi busnes ar amrywiaeth o fusnesau, gan gynnwys manwerthu, masnachwyr bach yng nghanol dinasoedd, twristiaeth a gweithgynhyrchwyr.

Trafododd yr Aelodau a phobl fusnes sut y mae ardrethi'n cael eu cyfrifo, sut y caiff yr arian ei wario, a oes modd gostwng ardrethi i hyrwyddo datblygiad economaidd, a sut y gellid gwneud hynny, yn ogystal â materion yn ymwneud yn benodol â chost buddsoddi mewn cyfarpar (e.e. trwy ddiwydiannau mawr fel gwaith dur), gwrthdaro rhwng y stryd fawr a siopau y tu allan i'r dref, a sut y dylai bythynnod gwyliau gael eu hasesu.

 

 

Daw'r holl luniau o ddigwyddiad brecwast y Pwyllgor â rhanddeiliaid i drafod ardrethi busnes yng Nghymru ar 5 Hydref ym Myd y Badau, Bae Caerdydd.


Argymhellion

Mae'r Pwyllgor yn gwneud pum argymhelliad ar gyfer ardrethi busnes yng Nghymru.

Dylai Llywodraeth Cymru wneud yr hyn a ganlyn:

01. Ymrwymo i wneud ardrethi busnes yn fwy tryloyw a chyson;

Mae ein tystiolaeth yn awgrymu, er gwaethaf ymdrechion i addysgu a hysbysu, nad oes dealltwriaeth dda o hyd ynghylch sut y cesglir ardrethi busnes a beth yw eu diben.

 “One of the issues that constantly come across in my discussions with businesses and ratepayers is not understanding the system and the basis of the tax, which is the rateable value: ‘What does a rateable value mean... I think it’s incumbent upon Welsh Government or the Valuation Office Agency, which sets the new assessments, to explain how that assessment is arrived at.”

-     Andrew West o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig Cymru (RICS Cymru)

Mae'r anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a'r Ffederasiwn Busnesau Bach ynghylch a yw parhau â'r cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach presennol yn doriad treth mewn gwirionedd yn nodweddiadol o'r broblem. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn i ddweud na fydd pobl a allai fod wedi talu mwy yn 2017-18 bellach yn gorfod talu mwy, ond mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn iawn i ddweud na fydd unrhyw un yn talu llai nag yn y flwyddyn flaenorol o ganlyniad i weithredoedd Llywodraeth Cymru.

Nid yw ad-daliadau dros dro – hyd yn oed rhai sy'n parhau am flynyddoedd lawer – yn gyfystyr â system dryloyw. Clywsom fod yna gyfaddawd rhwng rhyddhad syml ac anflaengar, a rhyddhad cymhleth a theg.

Clywyd canmoliaeth i symlrwydd trefn ardrethi busnes Cymru, ac mae llawer i'w ganmol o ran y dull hwn. Ond mae elfennau apelgar hefyd mewn cynlluniau eraill sy'n cael eu rhedeg yng ngwledydd eraill y DU.

Fodd bynnag, dylid cydnabod, po symlaf yw'r system, yr anoddaf fydd targedu rhyddhad at sectorau neu fusnesau penodol.

02. Rhoi eglurder ynghylch cyfeiriad at y dyfodol;

Dangosodd y Gweinidog barodrwydd i ymchwilio'n llawn i botensial ffurfiau amgen o drethiant ar gyfer busnesau, gan gynnwys treth gwerth tir. Rydym yn croesawu'r agwedd agored hon, sy'n wahanol i agwedd ei ragflaenydd. Fodd bynnag, mae perygl bod y broses hon yn arwain at ansicrwydd i fusnesau – felly hoffem weld y gwaith hwn yn cael ei gwblhau'n gyflym.

 


03. Llenwi'r bwlch data o ran busnesau sy'n elwa ar y cynlluniau rhyddhad mawr a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy gasglu'r wybodaeth hon yn ganolog a chyhoeddi'r data cychwynnol.

Heriodd Ysgrifennydd y Cabinet y dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor a oedd yn awgrymu bod bylchau sylweddol yn y data ynghylch ardrethi busnes. Dywedodd ei fod yn agored i lenwi'r bylchau data lle gellid dangos y byddai cael data ychwanegol yn arwain yn uniongyrchol at system well. 

Dywedodd:

“Well, Chair, this is an issue where I will be very interested to look at what the committee concludes, having heard the evidence that you will have heard. I would be particularly interested in specific suggestions as to where data gaps might exist. I’d also need to see what the committee said about the difference that filling those gaps might make. In other words, how significant a gap is this, because it isn’t as though we are without information in this field?”

Roedd tystiolaeth y cafodd y Pwyllgor gan y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw (IRRV) yn datgan:

“Research during this report and throughout the Task and Finish Group has highlighted the clear lack of statistics available. This is worrying in terms of policy development and has hindered the Task and Finish group’s work in some aspects. Asking each individual Billing Authority in Wales for statistics appears to be a cumbersome task. A central database could provide the data needed on which to base NDR policy, its impacts and then have the intelligence to target relief/multipliers.”

 

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet y pwynt, yn ystod yr adolygiad o'r rhyddhad ardrethi busnesau bach, ei fod yn bwriadu ystyried y graddau y gall busnesau mawr sy'n gweithredu o fwy nag un safle hawlio rhyddhad am bob safle y maent yn eu meddiannu, ac i ystyried y graddau nad yw'r cynllun mewn gwirionedd yn gweithio er budd busnesau 'bach' yn yr ystyr hwnnw, ond yn hytrach fusnesau mawr sy'n gweithredu ar safle bach.

Dyma un ffordd y byddai cronfa ddata ganolog o ystadegau yn hynod o ddefnyddiol o ran helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisi mwy gwybodus.  Mae'n amlwg hefyd y byddai angen taro cydbwysedd rhwng unrhyw wybodaeth ychwanegol a gyhoeddir o'r gronfa ddata hon a chyfrinachedd masnachol.

Er bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth am fusnesau sy'n elwa ar gynlluniau rhyddhad a ariennir drwy grant fel y cynllun Ardaloedd Menter, nid yw'n cynnwys y tri chynllun rhyddhad y mae Llywodraeth Cymru yn gwario fwyaf arnynt – rhyddhad ardrethi busnesau bach, rhyddhad ardrethi elusennol a rhyddhad eiddo gwag. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd yn gwario bron £180 miliwn yn darparu'r cynlluniau rhyddhad ardrethi hyn yn 2016-17.

Pe bai gwybodaeth ystadegol am fusnesau sy'n elwa ar y cynlluniau rhyddhad ardrethi hyn yn cael ei chasglu a'i chyhoeddi, byddai hyn yn gwella dealltwriaeth o'r gwerth am arian y mae cynlluniau o'r fath yn ei gynnig, ac yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am y mathau o fusnesau sy'n elwa ar gynlluniau ac ym mha ardaloedd y maen nhw.  Byddai hefyd yn rhoi sylfaen ddefnyddiol ar gyfer modelu newidiadau polisi yn y dyfodol.  Mae data eisoes yn cael eu cyhoeddi ar y pwnc hwn yn Lloegr a'r Alban a allai fod yn fan cychwyn i Lywodraeth Cymru ei ystyried.


 

 

04. Diwygio'r broses apeliadau yng Nghymru er mwyn iddi fod yn gynt ac yn decach;

Ceir consensws clir ymhlith busnesau, sefydliadau ymbarél ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid fod y broses apeliadau yn rhy araf a biwrocrataidd. Hefyd, clywodd y Pwyllgor yn uniongyrchol gan fusnesau bach am y prosesau hir y maent wedi bod drwyddynt.

Mae tystiolaeth Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi bod cyfradd lwyddiant y broses yn isel, sy'n awgrymu nad oes llawer yn deall y sail ar gyfer cyfrifo.

Cafodd y system apeliadau newydd sydd wedi'i chyflwyno yn Lloegr ei beirniadu'n sylweddol gan dystion, sy'n awyddus nad yw Cymru yn ail-greu’r cynllun hwn.  Roedd y pryderon yn canolbwyntio ar y ffaith bod y system newydd yn Lloegr yn ei gwneud yn anoddach i fusnesau gael ystyriaeth i'w hapeliadau, faint o amser y gallai ei gymryd i ddatrys apeliadau a chyflwyno ffi i achosion gael eu clywed mewn tribiwnlysoedd prisio. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei dystiolaeth y byddai'n cychwyn ymgynghoriad yn ystod yr hanner tymor nesaf ar weithdrefn apeliadau ddiwygiedig ar gyfer Cymru. Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r cyhoeddiad hwn ac yn edrych ymlaen at ystyried cynigion Ysgrifennydd y Cabinet pan fyddant yn cael eu cyhoeddi.

 


 

05. Symud ailbrisiadau i gylch tair blynedd;

Clywodd y Pwyllgor wahaniaeth barn ynghylch ailbrisiadau, ond mae'n parhau i fod yn bendant o'r farn bod ailbrisiadau rheolaidd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y system yn deg ac yn parhau i fod yn deg.

Roedd sawl un o'r tystion y clywsom ganddynt, gan gynnwys y Ffederasiwn Busnesau Bach, IRRV a RICS Cymru, yn argymell ailbrisiad bob tair blynedd. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen newid y ffordd y caiff prisiadau eu cynnal, er enghraifft drwy gyflwyno hunan-ardystio neu greu system fwy awtomatig.

Drwy symud i drefn fwy rheolaidd o ailbrisio, mae'n debygol y bydd amrywiadau yn fwy aml mewn ardrethi busnes, ond bydd yr amrywiadau hynny'n llai o ran maint. Rydym yn credu bod hyn yn well na newidiadau mwy sy'n dilyn cylch pum neu chwe blynedd. Dylai hefyd alluogi Llywodraeth Cymru i gael gwared ar drefniadau trosiannol (a all fod yn gymhleth i'w gweinyddu).

 

Casgliad

Mae ardrethi busnes yn fater beunyddiol ymhlith perchnogion busnesau bach. Mae hyd yn oed y rhai sy'n talu dim ar hyn o bryd yn pryderu y byddant yn croesi'r trothwy ac yn cychwyn talu os bydd eu busnesau'n tyfu.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cymryd agwedd meddwl agored ar ddechrau ei gyfnod yn y swydd, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed sut y mae'n bwriadu diwygio'r system apeliadau ymhellach maes o law.

Yn y cyfamser, rydym yn ei annog i edrych eto ar y gwahanol adolygiadau a grwpiau gorchwyl a gorffen a gynhaliwyd yn y Cynulliad diwethaf, a rhoi arweiniad sydd mor glir â phosibl i fusnesau yng Nghymru y bydd trethi yn dryloyw ac yn gyson.